Mae busnesau Twristiaeth Gogledd Ddwyrain Cymru wedi gweld budd o ddatblygu eu sgiliau arwain ar ôl manteisio ar ein rhaglen arweinyddiaeth 20Twenty a ariennir yn rhannol, a gynhelir yn Wrecsam. Mae ar gael i bob busnes yn Sir y Fflint, Wrecsam a gogledd Powys.
Mae Oneplanet Adventure, yn 2005 gan y beicwyr mynydd brwd Jim Gaffney ac Ian Owen, a ddechreuodd eu busnes yng Nghoedwig Llandegla.
Mae Oneplanet Adventure yn fecca i feicwyr mynydd o bob rhan o’r Deyrnas Unedig sy’n dod i brofi eu sgiliau ar y 40km o lwybrau y maen nhw wedi’u creu.
Erbyn hyn mae’n denu 170,000 o ymwelwyr y flwyddyn a chanolbwynt y busnes yw’r ganolfan ymwelwyr sy’n cynnwys caffi sydd ennill gwobrau, siop feiciau, gweithdy a chyfleusterau llogi beiciau.
“Rydym wedi anfon sawl aelod o staff ar y cwrs Twf Busnes 20Twenty i’w galluogi i dyfu fel arweinwyr a’u grymuso i ddatblygu eu hunain ymhellach, gan helpu yn ei dro i symud y busnes yn ei flaen hefyd. Mae wedi galluogi’r busnes i dyfu o’r tu mewn yn hytrach na bod angen recriwtio rheolwyr.
Mae hyn yn ein helpu i adeiladu timau cryfach gyda mwy o ymdeimlad o berthyn a theyrngarwch.” meddai Jim Gaffney, Cyfarwyddwr Cwmni One Planet Adventure.
Fe wnaeth Shelly Barratt, sylfaenydd a Chyfarwyddwr y ‘Real Ale Trail’, sydd wedi ennill gwobrau, sefydlu ei chwmni i helpu pobl i ailddarganfod tafarndai mewn rhannau gwledig anodd eu cyrraedd o Gymru, drwy fynd ar fws yn lle trefnu i deithio mewn car, at ddrysau hyd at 9 tafarn.
“Mae digwyddiadau’r Ale Trail yn rhan o ddarlun ehangach, er mwyn helpu economi twristiaeth yr ardal gyfagos a bod o fudd i fusnesau bach gyda marchnata. Menter dwristiaeth ydoedd yn gyntaf ac yn ail, gŵyl fach i ddathlu tafarndai gwledig Cymru gyda phobl sydd ddim yn ymweld â’r ardal yn aml.
Mae’r llwybr yn rhoi rheswm da i ffrindiau ddod at ei gilydd am ddiwrnod allan. Maen nhw’n dweud mai cysylltiad dynol yw’r ffurf ddyfnaf o gariad diamod, ac ar ôl y ddwy flynedd ddiwethaf rydyn ni i gyd wedi’u profi, ni fu erioed amser mwy perthnasol i estyn allan a dod ynghyd â’ch ffrindiau am ddiwrnod allan, gan flasu’r cwrw lleol, bwydydd fferm lleol, cerddoriaeth leol, i gyd mewn tafarndai gwych”.
Bu Shelly ar raglen lefel 7 CMI 20Twenty a dywedodd ‘Ymunais â rhaglen 20Twenty i wneud yn well mewn busnes. Nid oedd fy ngradd yn darparu popeth yr oeddwn ei angen i redeg cwmni llwyddiannus. Rwy’n cynllunio brandiau o’r cysyniad i’w darparu ac fe wnes i adeiladu fy musnesau i dyfu, nid i’w cynhyrchu’n gyflym a’u gwerthu.
Mae busnes i mi yn ymwneud â’r tymor hir, ac mae’n rhaid i chi weithio ar eich meysydd gwan, ond sut ydych chi’n gwneud hynny pan rydych chi’n rhedeg busnes? Ymunwch â 20Twenty wrth gwrs!
Roedd elfennau’r cwrs o gymorth mawr i’m busnes ac yn anfwriadol, mi wnes i gwrdd ag eraill disglair iawn yn yr un sefyllfa, sydd wedi fy helpu i ddatblygu fy nghwmni’n sylweddol. Oherwydd i mi elwa cymaint o’r cwrs, anfonais aelod o staff ar raglen lefel 4 CMI 20Twenty.
Pam fyddai unrhyw un yn gwrthod y cyfle hwn? Mae wedi’i sybsideiddio, rydych chi’n gwneud cysylltiadau busnes hirdymor, ac rydych chi’n dysgu dulliau gweithredu newydd nad ydych chi wedi’u rhoi ar waith yn y busnes cynt. Mae’n anrheg!
Graddiodd Lee Browning hefyd o raglen lefel 7 CMI 20Twenty ac mae’n un o’r bobl y tu ôl i The Boardroom Climbing yng Nglannau Dyfrdwy, lleoliad dringo dan do ychydig oddi ar ffin yr A55/M56 rhwng Cymru a Lloegr. “Dringwyr ydyn ni, rydyn ni’n hoffi dringo, felly fe wnaethon ni adeiladu The Boardroom.
Nid breuddwyd un person neu syniad un person yn unig mohono. Mae’n cael ei dyfu’n organig trwy ryngweithio a chyfraniad yr holl staff gwych a’r cwsmeriaid gwych.
Mae The Boardroom Climbing yn chwaethus, hamddenol a chyfeillgar gyda llinellau TR a heriau gwych. Mae gennym bron i 2000m2 o ddringo ac rydym yn gartref i wal Psicobloc gyntaf y Deyrnas Unedig.
Rydym yn cynnal sesiynau blasu, cyflwyniad i ddringo, clybiau plant, partïon pen-blwydd, dringo/abseilio cadair olwyn, dosbarthiadau yoga, ffisio a thylino chwaraeon. Rydym hefyd yn gwneud coffi gwych ac mae gennym gaffi”
Wrth sôn am ei amser ar y rhaglen 20Twenty, dywedodd Lee “Os ydych yn ystyried gwneud y rhaglen, mi fyddwn i’n gwneud! Mae’r amser rydw i wedi’i dreulio ar y rhaglen wedi bod yn werth chweil; mae wedi bod yn ddefnyddiol iawn.
Mae’r cwrs wedi’i ariannu’n rhannol ac fel pob busnes bach nid oes gennych lawer o arian sbâr, felly mae’r ffaith ei fod wedi’i ariannu’n rhannol i raddau helaeth yn dda. Mae’r cwrs wedi rhoi llawer o sgiliau i mi sydd wedi fy ngwneud yn fwy effeithlon. Mae wedi bod yn ddefnyddiol iawn”.
Mae carfan lefel 5-7 CMI (Sefydliad Rheolaeth Siartredig) nesaf 20Twenty yn dechrau ym mis Medi yn Wrecsam a’i nod yw datblygu sgiliau arwain perchnogion a rheolwyr busnes yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Rydym yn recriwtio ar hyn o bryd ac mae’r rhaglen yn cael ei hariannu hyd at 80% gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) drwy Lywodraeth Cymru ac yn cyfrif 1/3 o MBA.
Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru ar y rhaglen, e-bostiwch j.whittaker@bangor.ac.uk neu ewch i’r wefan: www.20TwentyBusinessGrowth.com.